Evaluation Scotland Wales
The UK Strategy for Financial Wellbeing is taking forward the work of the Financial Capability Strategy Opens in a new window

Dywed pedwar o bob deg o blant a phobl ifanc yn unig eu bod wedi cael rhyw gymaint o addysg ariannol yn yr ysgol

Ysgolion

View in English / Edrychwch ar y dudalen hon yn Saesneg

  • Mae plant a phobl ifanc sy’n dweud eu bod wedi cael addysg ariannol yn yr ysgol yn fwy tebygol o fod â sgiliau ariannol da
  • Dim ond 4 o bob 10 o blant a phobl ifanc sy’n dweud eu bod wedi cael rhyw gymaint o addysg ariannol yn yr ysgol
  • Hoffai nifer o ysgolion a cholegau gynyddu’r hyn a gynigiant o ran addysg ariannol ond maent yn cael eu rhwystro gan amserlen a chwricwlwm prysur a phrinder sgiliau a gwybodaeth.

Mae addysg ariannol dda yn yr ysgol yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i blant a phobl ifanc iddynt fedru gwneud y mwyaf o’u harian, cynllunio ar gyfer y dyfodol a’u hatal rhag mynd i ddyledion problemus neu brofi egsbloitiaeth ariannol.

Pam fod addysg ariannol yn bwysig

Gwyddom fod dysgu am arian yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth i’ch myfyrwyr. Dengys ymchwil bod plant a phobl ifanc sy’n dweud eu bod wedi cael rhyw gymaint o addysg ariannol yn yr ysgol yn fwy tebygol o:

  • gynilo’n rheolaidd
  • fod â chyfrif banc, ac
  • yn hyderus ynghylch rheoli eu harian.

Dywed plant a phobl ifanc eu hunain bod eu haddysg ariannol o gymorth iddynt.

Sut i ymgorffori addysg ariannol i mewn i’r cwricwlwm cyfredol

Gall addysg ariannol o ansawdd da wella cwricwlwm cyfredol eich ysgol hefyd. Gall gael ei ymgorffori i ddatblygiad personol a phynciau dinasyddiaeth, gan helpu’ch myfyrwyr i ddod yn aelodau deallus yn eu cymunedau, gan fwynhau bywyd ac aros yn ddiogel. Gall hefyd helpu i ddod â phynciau fel mathemateg yn fyw, gan wneud dysgu’n berthnasol i fywydau beunyddiol myfyrwyr. Gall wella addysg yrfaoedd a dysgu ar gyfer gwaith, gan sicrhau bod myfyrwyr yn barod i ddeall a rheoli eu hincwm.

Fodd bynnag, gallwn wneud rhagor i roi’r dechrau gorau posibl i blant a phobl ifanc. Hoffai nifer o ysgolion a cholegau gynyddu’r hyn a gynigiant ond mae angen help arnynt i wneud hynny. Mae ansawdd addysg ariannol mewn ysgolion ledled y DU yn anghyson, ac nid oes gan yr athrawon sy’n dysgu’r pwnc yr hyder na’r sgiliau na’r offer angenrheidiol bob amser. Dengys tystiolaeth nad yw addysg ariannol gyfredol mewn ysgolion yn cau’r bwlch sgiliau ariannol rhwng plant bregus a phobl ifanc a’u cyfoedion.

Camau nesaf ac adnoddau

Mae gan staff ysgol ran allweddol i’w chwarae wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i fod yn alluog yn ariannol ac i ffynnu wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol. Pan gaiff plant a phobl ifanc addysg ariannol, gwyddom fod hynny’n gwneud gwahaniaeth.

Felly, beth allwch chi ei wneud nesaf?

Awgrymiadau da ar gyfer addysg ariannol

  • Dechreuwch arni’n gynnar. O’r dystiolaeth gwelwn fod agweddau plant tuag at arian wedi’u datblygu’n dda erbyn iddynt gyrraedd saith mlwydd oed. Felly, ewch ati i ymgorffori dysgu am fyd arian i mewn i’ch dulliau dysgu o oed meithrin ymlaen
  • Rhowch ddysgu ar waith. Gwelwyd bod dysgu yn y dosbarth a dysgu o brofiad yn cynnig y cyfuniad mwyaf effeithiol. Gallech drefnu banc cynilo yn yr ysgol, cefnogi grwpiau o fyfyrwyr i agor cyfrifon banc neu roi’r cyfle i blant reoli cyllideb
  • Gwnewch y mwyaf o ddigwyddiadau bob dydd. Gall addysg ariannol fod yn neilltuol o effeithiol os yw’n cydfynd â chyfle i’r unigolyn ifanc roi’r addysg honno ar waith. Er enghraifft, gallai mwy o ddysgu manwl ynglŷn â banciau a chynilo gydfynd â myfyrwyr yn cyrraedd 11 mlwydd oed sef yr oed pan allant agor cyfrif
  • Dylech gynnwys rhieni a gofalwyr. Yn unol â meysydd eraill o ddysgu, bydd addysg ariannol yn yr ysgol yn fwyaf llwyddiannus pan mae rhieni’n rhan o’r broses hefyd. Rhowch wahoddiad i rieni fod yn rhan o weithgareddau sy’n rhoi profiad o ddysgu ariannol, neu anogwch fyfyrwyr a rhieni i ddatblygu eu dysgu gyda’i gilydd yn y cartref. Dysgwch ragor am sut all rhieni wella sgiliau eu plant gydag arian.

Mesurwch eich llwyddiant

Mae ein hadnoddau yn eich helpu i fesur canlyniadau eich addysg ariannol, er mwyn i chi fedru ei wella a’i wella eto fyth dros amser.

Addysg ariannol ar y cwricwlwm

Mae gan bob gwlad yn y DU ei gwricwlwm ysgol ei hun sy’n ymgorffori addysg ariannol mewn ffyrdd gwahanol ac i raddau gwahanol. Dysgwch ragor isod ynglŷn â sut y disgwylir i ysgolion pob gwlad ddatblygu eu galluogrwydd ariannol ar gyfer eu myfyrwyr.

Cymru

Yng Nghymru, mae addysg ariannol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o Ddatblygiad Mathemategol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

  • Erbyn diwedd y cyfnod cynradd (11 mlwydd oed), dylai disgyblion fod wedi dysgu sut i gyfrifo drwy ddefnyddio arian, deall y defnydd o £ a c, ac yn medru cymharu costau a chyllidebu, cynllunio a thracio arian a chynilion, cyfrifo elw a cholled ac asesu gwerth am arian.
  • Erbyn iddynt gyrraedd 16 mlwydd oed, dylai disgyblion wybod am wahanol arian tramor a chyfraddau cyfnewid, medru cwblhau gwaith cyfrifo mwy cymhleth (fel llog cyfansawdd), gwybod sut i gymharu a dewis cynnyrch ariannol ac wedi ymarfer rheoli cyllidebau cartref.
  • Mewn addysg bersonol a chymdeithasol, mae myfyrwyr yn dysgu sut mae arian yn cael ei ennill a phwysigrwydd cynilo a gofalu am eich arian.
  • Mae’r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, sy’n helpu athrawon i sefydlu darllen a mathemateg ar draws holl feysydd y cwricwlwm, hefyd yn cynnwys deilliannau’r dysgwr ynghlwm â rheoli arian.

Mae pecyn hyfforddi neilltuol a chanllaw ar addysg ariannol yn ceisio helpu athrawon i ddarparu addysg ariannol mewn ffordd effeithiol.

Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cwricwlwm ysgol newydd ar hyn o bryd a gyflwynir o 2022 ymlaen.

Darllenwch fwy am gwricwlwm ysgolion Cymru ar hyn o bryd.

Lloegr

Yn Lloegr, caiff addysg ariannol ei gynnwys yng nghwricwlwm cenedlaethol yr ysgolion uwchradd yn unig, fel rhan o ddinasyddiaeth a mathemateg.

  • Dylai disgyblion gael eu dysgu ynglŷn â swyddogaethau a’r defnydd o arian, cyllidebu, rheoli risg, credyd a dyled, cynilion a phensiynau, gwasanaethau ariannol a defnyddio mathemateg mewn cyd-destunau ariannol (megis cyfrifo llog).
  • Er nad yw addysg ariannol benodol yn ofynnol mewn ysgolion cynradd, mae’r cwricwlwm mathemateg yn cynnwys ychydig o addysg ariannol (fel deall £ a c, defnyddio ceiniogau a gweithio allan faint o newid sydd ei angen).
  • Disgwylir i bob ysgol ddarparu addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (ABGI), gan gynnwys rhyw gymaint o addysg ariannol, gan ddefnyddio’r canllaw a roddir gan y Sefydliad ABGI.

Dylid nodi bod cwricwlwm cenedlaethol Lloegr yn berthnasol i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig. Mae gan academïau ac ysgolion rhydd (sy’n cynrychioli 35% o ysgolion Lloegr) y rhyddid i greu eu cwricwlwm eu hunain, ond bydd llawer ohonynt yn gwneud defnydd o’r cwricwlwm cenedlaethol.

Darllenwch fwy am gwricwlwm ysgolion Lloegr.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae galluogrwydd ariannol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol rhwng 4 a 14 mlwydd oed, drwy fathemateg a rhifedd yn bennaf.

  • Erbyn diwedd oed cynradd (11 mlwydd oed), dylai plant fedru gwneud ymarferion cyfrifo gydag arian, ac wedi dysgu ynglŷn â chadw arian yn ddiogel, cyllidebu a chynilo, cynllunio ymlaen a gwneud dewisiadau ynglŷn â gwario.
  • Erbyn 14 mlwydd oed, dylai disgyblion ysgolion uwchradd fedru dangos galluogrwydd ariannol mewn sefyllfaoedd beunyddiol, gan ddefnyddio eu gallu sgiliau mathemateg i ddysgu am arian personol a gwneud penderfyniadau ariannol.
  • Mae yna elfennau o addysg ariannol yn bodoli mewn pynciau eraill ysgolion uwchradd, gan gynnwys dysgu am fywyd a gwaith, ieithoedd modern a cherdd hyd yn oed.

Mae gan y Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu wefan fach benodol sy’n cynnwys llawer o syniadau ar gyfer trwytho addysg ariannol i mewn i’r cwricwlwm cyfan.

Darllenwch fwy am gwricwlwm Gogledd Iwerddon.

Yr Alban

Yn yr Alban, mae galluogrwydd ariannol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm cyfnod addysg gyffredinol eang ar gyfer myfyrwyr rhwng 3 ac 14 mlwydd oed, yn bennaf mathemateg a rhifedd ar draws y maes dysgu.

  • Erbyn iddynt gyrraedd 11 mlwydd oed, dylai myfyrwyr fod wedi datblygu i fod yn ymwybodol o sut y defnyddir arian, dysgu sut i weithio allan faint o newid sydd ei angen, cyllidebu a chymharu costau a deall y costau a’r manteision o ddefnyddio cardiau credyd.
  • Erbyn iddynt gyrraedd 14 mlwydd oed, dylai myfyrwyr fod wedi dysgu am werth am arian (gan gynnwys yng nghyd-destun contractau a gwasanaethau), cyllidebu mwy cymhleth, credyd a dyled, enillion a threthi a chymharu a dewis cynnyrch arian personol.
  • Mae addysg ariannol hefyd yn rhan o gwricwlwm astudiaethau cymdeithasol fel rhan o ddysgu am fusnes a mentergarwch yn bennaf, gan ddelio â phynciau fel siopau a gwasanaethau, masnachu moesol, talu am nwyddau hanfodol, cynilo, benthyca a chyllid ar gyfer busnesau.
  • Yn ystod y cyfnod hŷn (15-18 mlwydd oed), disgwylir y bydd yr holl Gymwysterau Cenedlaethol yn helpu i ddatblygu rhifedd a sgiliau dysgu, bywyd a gwaith y myfyrwyr.

Darllenwch fwy am gwricwlwm ysgolion yr Alban.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth

Archwiliwch yr ymchwil ar addysg ariannol effeithiol yn ein Hyb Tystiolaeth, neu cysylltwch â ni yn cyp@fincap.org.uk.